Croeso i Brosiect y Bin Hapus

Vagabondi puppets in the happy bin schools waste minimisation roadshowMae'r fersiwn diweddar o'r cynllun lleihau gwastraff unigryw yma yn cymryd lle mewn pedair ar ddeg o ysgolion cynradd ym Mhowys.

Yn ogystal â lleihau gwastraff, mae’r Bin Hapus yn helpu disgyblion i ddatblygu eu dealltwriaeth o natur ac effeithiau eu ôl troed carbon. 

Mae’r prosiect presennol yn rhedeg o ddechrau Medi hyd Ragfyr 2007. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd ysgolion yn monitro a phwyso’u gwastraff, a bydd y canlyniadau’n cael eu dangos ar ffurf graff ar y safle hwn.

Darllenwch Mwy am y prosiect i ddarganfod sut mae'n gweithio.

Mae'r cynllun ar hyn o bryd wedi ei sefydlu o amgylch dri gynllun blaenorol. Cynllun peilot, Prosiect Gogledd Powys a Prosiect De Powys, gyda’i gilydd yn cynnwys 36 o ysgolion.

Fel mae’r prosiect wedi esblygu mae’r rhan fwyaf o’r ysgolion wedi gostwng y gwastraff a fyddai’n mynd i safle tirlenwi yn sylweddol. Yn y prosiect diweddaraf, sy’n cynnwys bron i 2000 o ddisgyblion, cyrhaeddwyd lleihad o 62% ar gyfartaledd. Mae tystiolaeth o brosiectau blaenorol, a gwblhawyd flwyddyn neu fwy yn ôl, yn awgrymu bod y lleihad mewn gwastraff yn cael ei gynnal a’i wella. Credwn fod y prosiect yma’n gweithio!

Defnyddiwch y linciau uchod i edrych o gwmpas ein safle. Wedyn, ymwelwch â'r safle yn reolaidd yn ystod y prosiect i weld datblygiad yr ysgolion tuag at SERO GWASTRAFF.

Mae'r cynllun yma yn cael ei hariannu gan Glasu, Cyngor Sir Powys, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Undeb Ewropeaidd LEADER+.

Main Menu

Cysylltwch â ni

Gweinyddiaeth y Prosiect

E-bost Donarbon Ltd

Ffôn 01223 861010

Rheolaeth y Prosiect

E-bost Ian Mitchell

Ffôn 01970 832161

Green Egg Company

Rheolaeth y Wê

Wê Cyberium

Ffôn 01654 761590

The project has been developed and supported by these organisations.

ReCap
Leader Plus GLASU